‘freely and fiercely inventive short stories… supercharged with ideas.’ Jon Gower, reviewing Pugnacious Little Trolls by Rob Mimpriss for Nation Cymru. ‘Where is the Welsh short story going? Wherever Rob Mimpriss takes it.’ John O’Donoghue. Pugnacious Little Trolls, a new collection of short stories published by Cockatrice Books. ‘Bathed in white fire in every sense... Borges would happily own them.’ Gee Williams on Pugnacious Little Trolls, a new collection of short stories published by Cockatrice Books. ‘A fine Welsh writer working under the radar who deserves to be much better known.’ Nation Cymru greeting Pugnacious Little Trolls, a new collection of short stories published by Cockatrice Books. ‘Beyond question Wales’s finest and most subtle short-story writer working today... A work of great beauty and subtle force, a fine, distinctive voice.’ Jim Perrin on Pugnacious Little Trolls. ‘Zestful playfulness... along with a grand energy and capacity for invention.’ Jon Gower reviewing Pugnacious Little Trolls for Nation Cymru. ‘Dark, complex, pensively eloquent’ (Sophie Baggott, New Welsh Review) — Reasoning, For His Warriors and Prayer at the End, three short-story collections now published by Cockatrice Books. ‘Heaving with loss, regret and familial bonds.’ Annexe Magazine on ‘Gemini,’ a short story in Prayer at the End, published by Cockatrice Books. ‘Lucid, skilful, and above all, of enormous timely relevance’ (Jim Perrin). Rob Mimpriss’s new translation of Morgan Llwyd’s allegorical masterpiece, A Book of Three Birds. ‘There is nothing ostentatious about his writing... And yet the best of these pieces express something important about psychology and human relationships, and the sparseness of the writing is capable of considerable power.’ Brian George, The Short Review. ‘These stories are a rare kind of joy. Even when they approach moments of discontent and danger they bring an optimism founded in human relationships. This is a wonderful collection.’ Prof. Graëme Harper, editor, New Writing. ‘An invaluable translation.’ Angharad Price on Hallowe’en in the Cwm, the short stories of Owen Wynne Jones, translated by Rob Mimpriss. ‘Humour and pity often arise from the characters’ inability to understand themselves and those close to them. In suggesting the truth and the self-deception Mimpriss not only engages our sympathy but makes us question our assumptions about ourselves.’ Caroline Clark, gwales.com ‘Quietly written, contemplative... whose powerhouse is the depth of its moral reflection.’ Siân Preece, Rhys Davies Competition on ‘Hamilton Park,’ published in Prayer at the End. ‘An immaculate collection.’ Nigel Jarrett, twice winner of the Rhys Davies Award, on Prayer at the End, a collection of short stories by Rob Mimpriss published by Cockatrice Books. ‘Through the stealthy movements of his prose, Rob Mimpriss enacts the quiet enigma of people’s lives and relationships. The result is an understated fiction of compelling intensity.’ Prof M Wynn Thomas. ‘The story is called ‘Valiant’ in the collection, For His Warriors. I recommend it. Highly. It feels to me already like a classic.’ Fiona Owen, editor, Scintilla. ‘A quiet writer with a loud voice... I’ll be listening for more.’ Michael Nobbs, gwales.com on Reasoning: Twenty Stories, published by Cockatrice Books. ‘In the most seemingly unremarkable of Rob Mimpriss’s pieces there is a skill, and a mystery and elusiveness to that skill, which other short-story writers might envy.’ Gee Williams. ‘Industry in the Country of the Blind,’ new fiction in Land of Change, radical prose from Wales edited by Gemma Howell and forthcoming from Culture Matters. ‘This exemplary collaboration’ (Philip Gross). Dangerous Asylums, an anthology of fiction by leading Welsh writers, inspired by Denbigh Mental Hospital, edited by Rob Mimpriss.
Photo of Kate Roberts as a young woman

Kate Roberts mewn cyfweliad â Saunders Lewis

S.L.: Fy nhasg hapus i, Kate Roberts, yw ceisio danu rhai o awduron y stori fer i sgwrsio am eu gwaith. Ac mae’n briodol iawn eich cael chi gyntaf yma gerbron y microffôn oblegid, er eich bod chi hefyd yn nofelydd, eto ym maes y stori fer yr enillasoch chi eich lle a’ch enw mewn llenyddiaeth. Yr wyf i’n cofio’ch straeon cyntaf chi’n ymddangos yn y cylchgronau ryw dair neu bedair blynedd ar ôl y Rhyfel Mawr cyntaf, y rhyfel – fel y gallwn weld yn awr – a benderfynodd linellau bywyd i bobl o’n cynhadlaeth ni. Mi gofia’ i’r argyhoeddiad a dyfodd yn fy meddwl fod llenor newydd dechrau; ac yna yn 1924 gyda’ch stori “Y Wraig Weddw” a stori “Henaint” fe welsom ni oll fod y stori fer Gymraeg wedi cymryd cam newydd yn ei hanes, cam pendant i mewn i fŷd creadigaeth artistig. Yr oedd gan y stori fer bellach orchwyl newydd; yr oedd hi’n gyfrwng gweledigaeth.

Ond yn awr, cyn dweud rhagor, dyma gwestiwn digon naturiol yn codi yn fy meddwl; sut y daethoch chi i ddewis y stori fer fel ffurf i'ch sgrifennu? Y pryd hwnnw ’doedd dim cymaint o fri ar y stori fer yn Cymraeg. ’Doedd hi ddim yn cyfrif fel awdl neu delyneg, er bod ambell gyfrol fel “Brethyn Cartref” Gwynn Jones a straeon Dic Tryfan wedi ymddangos, a John Morris Jones wedi agor y “Beirniad” i straeon Dewi Williams ac eraill. Beth wnaeth i chi ddewis y ffurf? Pam stori fer?

K.R.: Ni fedraf ddweud yn iawn pam stori fer ac nid nofel, os nad am fod profiad yn dangos “golau ar y cam” ac nid at yr holl fywyd. Mae’n anodd dweud ar ôl chwarter canrif o amser. Rhyw un peth yn dyfod ar draws y meddwl, a gweld deunydd stori yn hwnnw, ac efallai, meddwl nad oedd digon o amser i gynhyrchu nofel, petai’r syniad yn dyfod. Ond hefyd yr oedd y stori fer yn boblogaidd yn Saesneg ac mewn cyfieithiadau i’r Saesneg o wahanol ieithoedd a hefyd yr oedd Gwenda Gruffydd wedi rhoi imi flas ar Maupassant yn Gymraeg. Yr oedd pobl fel Katherine Mansfield yn tynnu sylw oherwydd iddi ddyfod â dull newydd o sgrifennu stori fer, dull a wnaeth i bobl anghofio O. Henry a rhai tebyg a sgrifennai storïau er mwyn eu diwedd trawiadol. Edmygwn y storïau Cymraeg a enwyd gennych ond nid oedd ddigon ohonynt, ac yn nyddiau ieuenctid nid oes ddigon o lyfrau i’w cael i ddarllen.

Ie, dyna awgrymu pennod arall yn hanes dylanwad llenyddiaeth Saesneg ar Cymraeg. Ond wedyn oni allai fod gwreiddiau Cymreig i’ch gwaith chi? O’r un ardal â chi y daeth Glasynys a sgrifennodd lawer o straeon byrion – yr wyf fi wedi dethol llyfr ohonynt ac fe ddywed Glasynys fod traddodiad adrodd straeon yn ei ieuenctid ef ac iddo glywed ei fam yn dweud straeon tylwyth teg a straeon gwerin ger y tân.

Oedd, yr oedd traddodiad o adrodd straeon yn fy ardal i, ond ni wn i ddim am y math o straeon a ddisgrifir gan Lasynys. Byddai’n meddwl bod Glasynys yn rhamantu llawer, ond os oedd adrodd straeon dan y simnai fawr yn bod yn ci amser ef, yna yn ffermydd mawr godro’r plwy a Rhostryfan yr oedd hynny. Ond ni chlywais i erioed gan fy rhieni am y dull yna o dreulio noson, er y byddent yn sôn am neithiorau. Yn Rhosgadfan, bywyd y tyddynnwr a geir, a thyddynnod wedi eu cymryd o’r mynydd sydd yno. Dim ond er amser y bysiau y tynnwyd “y llidiart coch” a gadwai’r defaid rhag dyfod i lawr o’r mynydd. O’i gymharu â Rhostryfan a gwaelod y plwy, nid yw’r pentref yn hen. Ond mae yno draddodiad straeon er hynny, chwarelwyr yn mynd i dai ei gilydd gyda’r nos yn y gaeaf, troi i mewn heb wadd, ac yn ddieithriad fe fyddai yno adrodd straeon, ond storïau diddan fyddent, o deip yr “anecdote,” ac adrodd troeon trwstan cyd-chwarelwyr.

Wel, a oedd yna ryw grefft yn y dull y dywedid y straeon hynny?

Oedd, yr oedd y medr i ddweud y straeon diddan hyn yn beth pwysig. Cofiaf fel y byddai beirniadu ar aelwyd fy hen gartref, os byddai rhywun wedi chwerthin am ben ei storïwr ei hun, neu wedi dweud stori yn rhodresgar a honno’n darfod mewn dim. Yn wir, yr oedd dull y gwrandewid ar storïwr felly yn ddigon i beri iddo stopio ar hanner, petai’n ddigon call i weld. Modd bynnag, fe eill bod ôl y traddodiad y soniwch amdano yn anuniongyrchol ar chwarelwyr fy mro, oblegid hanfyddai llawer ohonynt o Lŷn, lle’r oedd y traddodiad o adrodd straeon yn bod, mi gredaf. Ond os goddefwch imi ddweud hynny, ni welaf fi fod traddodiad yn bwysig yn y cyswllt yma, traddodiad byr fyddai p’run bynnag a mae’n rhaid i rywun ddechrau pob dim. (Petasai Adda yn sgwennu straeon, ni buasai ganddo na thraddodiad na dylanwad). Ac nid wyf yn credu bod dylanwad awduron o wledydd eraill yn cyfrif cymaint chwaith. Yr hyn a wnaeth darllen straeon byrion o ieithoedd eraill i mi ydoedd, nid gwneud imi ddymuno dynwared eu dull, na benthyca dim oddi arnynt mewn unrhyw fodd, ond dangos imi fod deunydd llenyddiaeth ym mywyd fy ardal fy hun, ac yn arbennig wedi darllen awduron na fynnent y dull o gloi stori yn glyfar. Yn wir gwnaeth imi benderfynu ar ddull cwbl groes i’r eiddynt hwy. Ond mae darllen bob amser yn rhoi sbardun imi sgrifennu.

Ie, dyna ddangos na all neb gysylltu ’ch celfyddyd chi â hen traddodiadwyr adrodd stori yn yr Oesoedd Canol, er nad ydw i ddim yn meddwl mai dychmygu iddo glywed ei straeon yr oedd Glasynys. Ond mae’n amlwg na pharhaodd yr arfer ddim i’n hoes ni. Yn hynny o beth, mae gwahaniaeth rhyfedd rhwng Cymru ac Iwerddon. Ond yn awr beth yn union a’ch cynhyrfodd chi gyntaf i ddechrau sgrifennu o gwbl?

Marw fy mrawd ieuengaf yn rhyfel l9l4-l8, methu deall pethau a gorfod sgrifennu rhag mygu. (Yn wleidyddol, gyrrodd fi i’r Blaid Genedlaethol). Yr wyf yn ddynes groendenau ofnadwy, mae popeth yn fy mrifo’n ddwfn a’r briw yn aros am hir. Mae bywyd ei hun yn fy mrifo. mae Angau yn tynnu’r cen oddi ar lygaid rhywun, yn rhoi sgytiad i ddyn a rhoi, megis mewn golau mellten, olwg newydd ar gymeriad, neu ar gymdeithas, neu’n wir, ar fywyd i gyd.

Ie, dyna ddyfod yn agos iawn at ddiffiniad o’r math o stori fer a gawn ni’n fynych gennych chi. Nid angau’n unig sy’n tynnu’r cen oddi ar y ein llygaid mewn aml stori, ond unrhyw digwyddiad, sy’n rhoi megis mewn golau mellten olwg newydd ar gymeriad neu ar fywyd. Er enghraifft, hen ŵr yn cyrraedd ei ddeg a thrigain a mynd ar ei waith bore hwnnw fel arfer, ond ei wraig yn edrych arno:

“Dyma’r tro cyntaf i’r peth daro Beti. Edrychai a gwrandawai ar bob dim heddiw fel petai’n newydd. Daethai rhyw syniad i’w phen gyda dyfodiad ei gŵr i’r oed hwn y byddai’n rhaid iddo adael y chwarel a byw ar ei bensiwn, ac y deuai’r cwbl a wnaethai fore heddiw a phob bore arall am ddegau flynyddoedd i ben. Edrychodd Beti yn hir ar ei gŵr. Ni fyfyriodd gymaint arno er cyn iddi briodi.”

A diwedd y stori:

“Meddyliodd rhyngddi ei hun, ‘Mi fydd yn gorfadd yn yr hen fynwant acw ymhen tipyn a’i ddwylo dros i gilydd am byth.” Dyna fo — rhoi mewn fflach olwg newydd ar gymeriad ac ar holl fywyd dyn ar y ddaear.

A ga’ i dorri ar eich traws am funud i ddweud un peth? Mae ystyr neilltuol i fod “a’i ddwylo dros i gilydd” yn Sir Gaernarfon, sef “bod yn segur”. Yn wir, mae bron yn gyfystyr 3l bod yn ddiog. A gwelwch na fedrais i ymddihatru’n llwyr oddi wrth geisio diwedd clyfar, drwy chwarae ar yr idiom yna, a’r ddau ystyr sydd iddi yn y stori.

Na, nid clyfar ydy hynny. Y mae’n gwbl deg ac yn dyfnhau’r foment a’i gweledigaeth fod holl ystyron a holl arwyddocâd y dywediad yn briodol yn y fan honno. Y mae segura yn fath o farw, ac y mae marw hefyd yn orffwys i’r corff. A fedrech chi, Kate Roberts, roi diffiniad o’r hyn yw stori fer yn eu hanfod i chi?

Cwestiwn anodd. Ni fydda i’n tybio weithiau fod cymaint o fathau o storïau byrion ag sydd o awduron. ’Rwy’n hoffi diffiniad y Dywysoges Bibesco, “seren wib llenyddiaeth”, ac mae'r seren wib yn ddisgrifiad o’r hyn y ceisiais i ei ysgrifennu ——rhyw un profiad, neu un fflach o oleuni ar un peth, neu gyfres o bethau yn perthyn yn agos i’w gilydd. Hyd yn oed pan geir cyfres o ddigwyddiadau yn perthyn i’w gilydd mewn stori fer, mae’r pwyslais ar un yn fwy na’r lleill. Fe ddylai bod rhyw “nawfed ton” er i’r tonnau eraill gael digon o sylw. Myn rhai fod Dameg y Mab Afradlon yn stori fer, yn un o storïau mawr y byd. Ar yr wyneb ymddengys fel crynodeb o nofel. Ond credaf mai stori fer ydyw, a’r penllanw’n cyrraedd pan yw’r tad yn maddau. (Efallai y dywedai rhai mai’r munud y penderfynodd y mab droi tuag adref yw’r munud mawr.) O safbwynt crefftwaith stori fer, efallai nad oes eisiau hanes y mab hynaf — mae hwnnw’n ddeunydd stori arall.

O’r gorau, down at y peth ar hyd ffordd arall. Sut y byddwch chi’n gweld deunydd i stori ac yn gafael ynddo?

Eto, anodd dweud. Mae’n anodd, bron yn amhosibl i ‘adeiladydd ddweud sut y bydd yn gosod bricsen ar fricsen i adeiladu tŷ, dim ond ei fod yn dechrau â sylfaen ac yn mynd ymlaen â’r muriau a wedyn rhoi’r to. Ond ’fedr o ddim dweud wrthych sut y gwna hynny. Ond rhaid i’r sylfaen fod yn gref, ac mae honno o’r golwg. Ac i’m bryd i, mae'r hyn sydd o’r golwg, y profiad, yn bwysicach. Weithiau ond nid yn aml, cofio am rywbeth a ddigwyddodd ym mywyd rhywun a gweld ynddo ddigon o bwysigrwydd i sgrifennu stori fer. Felly am “Henaint,” “Y Taliad Olaf,” a’r “Llythyr.” Ond wrth reswm eu moldio yn fy mhair fy hun a rhoi fy mhwyslais fy hun yn lle y tebygaf fi y dylai fod, e.e., yn “Y Taliad Olaf,” fe ddigwyddais glywed ddarfod i ryw hen wraig a oedd yn perthyn yn agos i mi fethu gorffen talu ei dyled tra oedd at y tyddyn, nes cael arian stoc y tyddyn i wneud hynny, ac fe aeth y peth i mi gymaint, fe’m brifodd os mynnwch, o wybod bod yr ymdrech i dalu ffordd yn un mor ddigalon o hir fel y penderfynais fod hynny yn destun stori. Ond nid wyf yn meddwl bod y person y digwyddodd hyn iddo yn edrych ar y peth felly o gwbl. Wrth gwrs, anaml y cewch yr un person i fyw rhywbeth ac i edrych o’r tu allan ar y byw hwnnw hefyd.

Ie, oni bai, wrth gwrs, fod amser rhwng digwydd rhywbeth ac edrych arno mewn myfyrdod wedyn. Ond nid yn felly ydych chwithau chwaith. Edrych ar eraill, nid arnoch eich hunan yn byw a wnewch yn eich straeon.

Tae waeth, wrth edrych dros fy straeon heddiw, credaf mai’r dull a gymerais oedd, fy mod yn gweld drwy fy nychymyg brofiadau’r bobl y’m codwyd ohonynt, a’r profiadau hynny yn codi fynychaf o’r ymdrech yn erbyn tlodi ; disgrifio’r pethau a arweiniodd at y profiad hwnnw (dyna paham mae cymaint o edrych yn ôl yn y storïau mae’n debyg) adeiladu’r stori gyda’r pethau a debygaf sy’n angenrheidiol i gyrraedd at yr uchafbwynt. Weithiau bydd dywediad o eiddo rhywun yn ddigon i roi testun stori imi, clywed bod dyn gwad wedi dychwelyd o’r ysbyty heb obaith gwella iddo, gweled pren noeth o flaen tŷ unig yn yr hydref, neu ieir yn swatio rhag y gwynt.

Hoffwn bwysleisio mai’r mymryn lleiaf sy’n rhoi syniad imi, a’r canlyniad ydyw, mai storïau sy’n edrych yn denau ydynt. Cyfeiriodd aml adolygydd at y teneurwydd hwn, ac absenoldeb cynyrfiadau mawr ynddynt, a heb gyfeiriad ynddynt at bethau mawr megis rhyfel. Dywedodd un adolygydd o Sais amdana’ i rywdro; “Mae ei thristwch fel ochenaid isel hir ar draws y dyfroedd.” Wel, mae rhywbeth mwy tu ôl i ochenaid wedi’r cwbl. ‘Ah unig beth y medraf i ei ddweud ydyw, mai effaith y cynyrfiadau’r nawr sydd yma. Mân donnau ar wyneb llyn megis, yw fy storïau i, ond mae cynnwrf ar y gwaelod.‘ Ni buasai’n rhaid i Ffebi Williams lapio ei chwilt am ei phen oni bai i ryw bethau mawr ddigwydd i fynd â’r siop oddi arni.

Mae hyn yn ddiddorol i mi, oblegid mae’n taflu golau ar y proses neu’r dull y bydd llawer bardd a storïwr yn gweithio. Dewch i minnau geisio’i ail-ddweud o fel y bydda’i yn ei weld o. Mae’r cyffro, neu’r symbyliad cyntaf, y peth sy’n rhoi cychwyn i’r gwaith yn dyfod o rywbeth, rhyw air neu ddigwyddiad, sy’n ei wthio ei hun ar y meddwl ac yn gafael ynddo. Ond wrth gnoi cil arno, wrth fyfyrio arno, daw llu o brofiadau, atgofion o bob math i gydio ynddo yntau a mynd yn un ag ef. Yn wir, dyna yw myfyrdod y bardd, nid rhesymu peth newydd i mewn i’r digwyddiad, na gweithio allan resymeg o ganlyniadau neu achosion, ond bachu a chodi o’i stôr o orffennol yr hen brofiadau a’r hen gynyrfiadau y mae’r profiad newydd hwn yn eu deffro a’u cydio yn ei gilydd. Rhyw fath o bysgota yw’r peth. Pysgotwr ydych chithau, a’ch pry genwair yn chwipio llyn tywyll profiad ac atgof a bywyd. Ym mha fath o lyn y buoch chi’n pysgota? Neu a rhoi’r ffigur yna heibio, a ddwedwch chi o ba le y daw eich profiadau a’ch deunydd fel storïwr?

O’r gymdeithas y’m codwyd ohoni, cymdeithas dlawd ar adeg dlawd yn ei hanes, oherwydd hynny ni’m denwyd i sgrifennu storïau yn delio 2l rhyw, neu ymdrechion rhwng pobl o wahanol gymeriadau a’i gilydd, neu ag ymdrechion ysbrydol eneidiau — ymdrech yn erbyn tlodi ydoedd o hyd. Ond sylwer nad wedi cyrraedd gwaelod y tlodi hwnnw y mae’r cymeriadau, ymdrechu yn ei erbyn y maent, ei ofn arnynt. Yn wir maent yn falch, yn hoffi pethau fel platiau gwydr pan fyddent yn ffasiwn, ac mae Ffanni Rolant yn bodio brethyn i weld ei werth, yn symbol o’r holl gymdeithas. Mae straeon Richard Hughes Williams am bobl sydd mor dlawd nes gorfod mynd i’r wyrcws yn taro’n od i mi. Soniodd llawer beirniad nad oes ymdrech yn fy storïau, mae’r ymdrech yno, ond efallai bod y bwyslais yn fwy ar y tawelwch a gyrhaeddwyd yn y diwedd. Ac os caf fi ddweud wrthych chi, heb i chwi fy nghyhuddo o gabledd, mi gredaf fod y tawelwch hwn yn brofiad bron mor ysbrydol ag eiddo Williams yn y pennill:

“Mi orffwysa’ f’ enaid bellach
Ar yr annherfynol stôr,
Ac mi ganaf yn y dymestl
Ar y graig sydd yn y môr.”

Soniodd rhai beirniaid, 'mai adlewyrchiad o’m cymeriad yw hyn. Ond hollol groes. Fel y dywedais, yr wyf yn ddynes groendenau, hawdd fy mrifo, ac yr wyf yn wrthryfelwr ofnadwy wrth natur. Codir fy ngwrychyn ar unwaith yn erbyn pob peth a dybiaf sy’n anghyfiawnder, boed oddi wrth unigolyn neu gymdeithas neu wladwriaeth. Yn wir, mi fydda’ i’n dymuno cael rhyw lwyfan mawr imi sefyll arno ma Phumlumon, i fedru gweiddi yn erbyn pob anghyfiawnder, megis yr anghyfiawnder ofnadwy a deimlais yn bersonol, fod llywodraeth yn mynd â phlant tyddynwyr o Gymry uniaith i ymladd brwydrau’r Ymerodraeth, ac yn anfon llythyr swyddogol i ddweud bod y plant hynny wedi eu lladd mewn iaith na ddeallai’r rhieni moni. Ond, fe ddwedai rhyw reddf nad llwyfan i weiddi oedd stori, a bu’n rhaid imi fy nisgyblu fy hun yn eithafol fel unigolyn sy’n byw, ac fel llenor sy’n ceisio ysgrifennu, i beidio â chwerwi yn erbyn pawb a popeth.

Ac mae’r un adolygiad yn dweud: “Ni chaf yn ei gwaith yr un llinell ag ynddi’r un arlliw o ffyrnigrwydd.” A dywed un arall nad oes ynddynt deimladau o ddicter, drwg deimlad, balchder, hunan-dosturi, na chwerwder. Nid canmoliaeth yw bod yr elfennau yna yn absennol wrth gwrs, oblegid gellid eu rhoi i wahanol gymeriadau, ond ceisio dweud yr wyf nad yw absenoldeb y teimladau yna o’m storïau ddim yn adlewyrchu ar fy nghymeriad. Fel arall yn hollol, y pethau yna ynof fi, a roes fod i lawer o’r storïau. Ond bu’n frwydr galed, bu'n rhaid imi ymladd megis y Diafol ei hun i ffrwyno fy nheimladau, a chael fy nghymeriadau i’r un tir o dawelwch.

Rhaid imi ddiolch yn fawr i chi am yr hyn a ddywedoch yn awr, mi greda’ i y bydd pawb yn ei gael yn help gwerthfawr i fynd i mewn i fyd eich straeon chi, oherwydd fe ddaru i chi enwi dau beth sy’n priodi’n gampweithiau yn y straeon eu hunain, sef priodoledd arbennig y gymdeithas a geir ynddynt, ei thlodi a’i hymdrech feunyddiol oesol yn erbyn tlodi, a’ch priodoledd arbennig chithau, yn wraig y mae popeth yn ei brifo. Rhaid wrth aeddfedrwydd meddwl go brin i ddweud peth mor gyrhaeddgar ac mor syml. Mi wn hefyd na fyddwch chi ddim yn disgwyl imi gydymdeimlo â chi na thosturio wrthych ddim am a ddywed’soch. Yn groes i hynny eich llongyfarch sy raid. Buoch yn lwcus yn eich cymdeithas, yn lwcus yn eich deunydd llenyddol. Pobl y mae amgylchiadau yn gwasgu arnynt, bywyd yn eu siomi a’u brifo, dyma ‘ch cymeriadau chi, plant alltud Efa. Ac wrth ddarllen amdanynt, nid gyda dim mewn llenyddiaeth gyfoes Saesneg neu dramor y byddaf i yn eu gosod, ond gyda chymeriadau hen feirdd cyntaf Groeg, Hesiod neu Homer ei hun. Y mae rhyw awyrgylch cyntefig, Groegaidd, clasurol, o’u cwmpas hwynt. Mae’n nhw’n blino wrth ddygn ymdrechu a’r graig ac a’r pridd, a gwybod nad oes dim gollyngdod o’r blino, hyd oni ddaw angau i’w gollwng. Cymerwch y frawddeg olaf honno y soniais i amdani eisoes, yr hen wraig yn edrych ar ei gŵr hen ac yn dweud, “Mi fydd yn gorfadd yn yr hen fynwent acw ymhen tipyn, a’i ddwylo dros i gilydd am byth.” Gallasai Hector ddweud hynny — fe ddywedodd beth yn yr un cywair wrth ei wraig ei hun wrth ffarwelio â hi y tro olaf. Y pethau Groegaidd hyn, y clasuroldeb di-dymor a di-ffasiwn yma, dyna i mi yw swyn a grym eich storïau chwi.

A ga’ i dorri i mewn unwaith eto i ddweud bod ochr arall i gwestiwn y tlodi yna. Beth pe bawn i wedi fy ngeni i gymdeithas foethus, nid moethus ym mhethau’r byd hwn a olygaf yn hollol, ond cymdeithas o bobl a sglein llyfrau ac addysg arnynt, pobl wedi byw a bod am ganrifoedd ym myd llyfrau a diwylliant uchel? Oni buaswn yn well llenor o’r herwydd? Byddaf fi’n credu bod dwy ran o dair o yrfa lenyddol llenorion a enir i fyd fel yna wedi digwydd cyn eu geni. Efallai nad oes amser heno i fynd ar ôl manteision ac anfanteision y ddau fath o gymdeithas.

Nag oes yn siŵr. A phetaech chi wedi’ch geni i fath arall o gymdeithas, nid Kate Roberts fyddech chi, ac ni byddem ni yma heno’n sgwrsio. Mae’n beth da iawn nad oes gan neb ohonom gyfle i ddewis ei rieni, hyd yn oed er mwyn y stori fer. Ond yn awr i droi am weddill yr amser at bwynt neu ddau ysgafnach, dwed’soch eisoes sut y bydd eich straeon yn tyfu. Y mae hynny’n golygu nad yw techneg y stori, sut i’w datblygu a’i threfnu hi, ddim yn bwnc mawr gennych. Ond beth am iaith ac arddull, gan gofio’ch bod chithau hefyd yn un o hen ddisgyblion John Morris-Jones.

Gwir iawn. Ni roddais i lawer o sylw i dechneg y stori, a meddwl am ddechrau, canol, a diwedd, mae arnaf ofn. Mae ôl ymdrech am gael diwedd annisgwyliadwy neu syndodus ar fy storïau cyntaf. Ond rhoddais gorau i dreio bod yn glyfar wedi eich ysgrif chwi yn y Faner. Eithr rhoddais sylw mawr i frawddegau a geiriau, ceisio cael gair iawn i fynegi’r peth a fynnwn, ac nid cael gair er mwyn y gair, er i hynny fod yn demtasiwn ar y dechrau. Ond y peth mawr i mi yw profiad, gweld â’m teimlad a cheisio ei gyfleu â’m synnwyr mewn gair, ceisio bod yn gywir, ac oblegid hynny, mae’n rhaid imi adael allan addurniadau arddull yn aml iawn. Imi nid oes synnwyr mewn brawddeg heb iddi fod yn fynegiant cywir o’ch profiad. Dyna i mi yw ystyr y dywediad mai’r dyn ei hun yw ei arddull.

A fedrwch chi roi enghraifft o hynny?

Wel, dyna ’r frawddeg am y chwarelwr sâl yn “Henaint”, sonnir bod ei ddwylo “yn lân”. Dywediad y myfyriwyd arno yn hir yw hwnna, ac mae mor syml fel y gellir myned heibio iddo fel enghraifft o arddull hollol fod a diwerth. Ond mae dweud hynyna am chwarelwr, y mae semiau llwch llechi â dŵr wedi caledu hyd ei fysedd, yn dangos hyd ei gystudd. Fe welodd un Saesnes y peth, ac un gweithiwr o Gymro.

Ond yr oeddych chi wedi cael un fantais bwysig addysg ffurfiol yn y Gymraeg——peth prin i lenorion cyn ein cenhedlaeth ni.

Er imi gael gwell manteision i ddysgu Cymraeg na llawer, h.y., fe ddysgwyd imi Gymraeg yn yr ysgol elfennol â’r Ysgol Sir, ac yn y Coleg, iaith gan mwyaf, eto ni allaf ddweud imi ddysgu dim am werth llenyddiaeth fel llenyddiaeth drwy gydol fy holl addysg. Meddyliwch chi rwan, na chefais i mewn nac ysgol na choleg, ddim beirniadaeth ar Ddaniel Owen o gwbl. Y peth nesaf a glywais i at feirniadaeth lenyddol at Ddaniel Owen oedd ar yr aelwyd gartref. Rhywbeth fel hyn : “Dda gini mo ‘Gwen Thomos’ hen nofel ddigalon heb eisio ydi hi. I be oedd eisio mynd 2l hi i’r Merica i farw yn fanno. Eisio gorffen y stori pan gawsom nhw’r pres a phriodi oedd”. Ond, er na chefais i fanteision beirniadaeth fe gefais i un peth pwysig iawn yn y coleg, fe ddangoswyd i mi ogoniant yr iaith Gymraeg, a bu hynny’n help dirfawr i’m harddull. Credaf fod darllen y Mabinogi, yn y gwreiddiol a’r arddull gwta, glir, brawddegau byrion sy’n llawn awgrym wedi bod yn help fawr imi, er yn anymwybodol efallai. Ystyriaf imi fod yn ffodus ryfeddol, cael rhieni uniaith, a holl gyfoeth tafodiaith Llyn ac Eifionydd ar eu gwefusau a chael dysgu gwyddoniaeth iaith yn drwyadl yn y coleg. A bûm yn ffodus mewn peth arall, er efallai nad dyma’r lle iawn i sôn amdano.

Ond ie’n sicr, i hynny y daethom ni yma.

Wel, dyma fo. Fe’m magwyd ar aelwyd wreiddiol. Ni byddai arnom ofn beirniadu a rhoi llinyn mesur ar gymeriad-au, yn enwedig fy mam. Bûm yn synnu ganwaith at ei greddf o adnabod cymeriad, a naw gwaith o bob deg dangosai amser y byddai’n iawn. Cofier, ar yr aelwyd ac nid ar y ffordd y byddai’r gyllell yn gwneud ei gwaith, rhyngom ni a’n gilydd y pesid barn. Ond mae’n rhaid cael peth felly i sgrifennu storïau. Ni cheir fyth storïwr wrth gau llygad yn dduwiol ar wendidau pobl.

A beth am eich cynlluniau? A ydych chi’n myfyrio ac yn paratoi storïau newydd i ni?

’Fydda’i byth yn peidio â myfyrio storïau, a phetai modd dyfeisio peiriant i rhoi feddyliau rhywun i lawr yn ogystal â’i eiriau, mi greda’ i y byddai gennyf lond gwlad o storïau mewn dim. Erbyn hyn, mae arnaf ofn na wnaf ddim ond sefyll y tu allan i fywyd ac edrych arno, yn lle byw fy hun. Ni fedraf egluro’n iawn. Yr wyf fel pe bawn yn symud mewn gwagle fy hun, ac yn edrych ar fywyd yn mynd heibio. Mae yna ddigon o bethau i sgrifennu amdanynt cyd ag y bo bywyd. Ydach chi’n gweld, pan ddechreuais i sgwennu, nid cael syniad am stori a wneuthum i, ond cael syniad am fywyd, ac oblegid hynny rhaid i’r weledigaeth fynd yn ei blaen. Pan yw awdur yn cael syniad am stori, fe orffen yn y fan honno, nes daw syniad arall. Ond os cewch weledigaeth ar fywyd, bydd stori arall yn ei gwthio ci hun cyn i chi orffen sgrifennu’r gyntaf. Digon posibl yr ysgrifennaf storïau byrion eto, ond teimlaf yn awr yr hoffwn ysgrifennu nofel fer, nid wyf yn credu y medrwn ysgrifennu nofel hir, gan ei bod yn ormod trafferth ysgrifennu’r pethau llanw.

Beth am fudiadau newydd neu dueddiadau newydd mewn llenyddiaeth? Ydy’r rheini’n mennu arnoch?

'Dwn i ddim. Teimlo’r ydw’ i na ddihysbyddwyd yr hen ddull o sgrifennu yn Gymraeg eto, er mae’n amlwg ei ddihysbyddu yn Saesneg, oblegid yr arbrofion newydd a geir o hyd. Mae arnaf ofn fy mod i yn rhy hen ffasiwn i fynd ar y ôl y ffasiynau newydd yma, ond mae un awdur Saesneg y byddaf yn gweld y gellid efelychu ei dull yn Gymraeg, sef Miss Virginia Woolf. Cytunaf yn llwyr â hi na ddylid rhoi i lawr bob dim a wna neu a ddyfyd y cymeriadau. Pwysicach yw yr argraffiadau a gaiff yr awdur ar ei feddwl, ac yn hyn o bath mae’r iaith Gymraeg, yn iaith gyfaddas iawn i gyfleu’r darluniau a’r meddylddrychau priodol, bu’n iaith barddoniaeth odidog ar hyd y canrifoedd, ac mae idiom ei gwerin yn llawn darluniau yn eu siarad bob dydd, 2l chredaf y gellid nofel o’r teip yma yn Gymraeg. Prun bynnag, mae digon o ddeunydd nofelau yn yr un bywyd ag a geir yn y storïau byrion, gan mai darlun o fywyd ydyw, yn wir ni ellid ei ddihysbyddu mewn oes, er mai bywyd llwyd, diddim yn aml ydyw. Ond rhaid dal i edrych a dal i fyfyrio a dal i weithio. Ac mae arnaf ofn fy mod innau’n dioddef oddi wrth wendid fy nghenedl, sef diogi. Felly ni wn pryd y ceir y nofel. Ond mae’r dymuniad yma. Ond rhaid cael athrylith i roi’r dymuniad mewn grym ac nid wyf fi athrylith.

“Nid cael syniad am stori ond cael syniad am fywyd a wneuthum i wrth ddechrau sgrifennu,” dyna a ddywed’soch chi gynnau fach. All’sech chi ddim dweud dim gwell i ddangos lle y mae cyfrinach eich straeon chi’n gorwedd. Digwyddiadau cyffredin bywyd beunyddiol yn rhoi’n symbolau oblegid eu bod yn rhoi gweledigaeth inni ar fywyd dyn ar y ddaear.

I am the author of four short story collections. Reasoning and For His Warriors, originally published by Gwasg y Bwthyn, Caernarfon, with Welsh Books Council support, now join Prayer at the End and Pugnacious Little Trolls in revised editions at Cockatrice Books. My anthology of fiction, Dangerous Asylums, including work by Gee and David Williams, Glenda Beagan, Carys Bray, Simon Thirsk and others, was published by the North Wales Mental Health Research Project, October 2016. I am a contributor with Nigel Jarrett, Rachel Trezise, Tristan Hughes and others to Brush with Fate (Albawtaka, 2014), an anthology of Welsh fiction in Arabic translation by Hala Salah Eldin, to Land of Change (Culture Matters), and to Creative Writing Studies (Multilingual Matters, 2007), essays on writing as an academic discipline edited by Graëme Harper and Jeri Kroll, and of the foreword to Rivers of Wales by Jim Perrin (Gwasg Carreg Gwalch, 2022).

I am the translator of Going South: The Stories of Richard Hughes Williams (Cockatrice, 2015), Hallowe’en in the Cwm: The Stories of Glasynys (Cockatrice, 2017), A Book of Three Birds, the seventeenth-century classic by Morgan Llwyd (Cockatrice, 2017), and of fiction by D. Gwenallt Jones, Angharad Tomos, and Manon Steffan Ros. I was Artistic Coordinator of the North Wales Mental Health Research Project convened by Prof. David Healy at the Betsi Cadwaladr University Health Board, and am the editor of Cockatrice Books. I hold a Ph.D. in Creative and Critical Writing from Portsmouth University, and in 2011 I was invited to membership of the Welsh Academy in acknowledgement of my contributions to Welsh writing.